23 December 2013

Stylishly Clueless



Yn ôl ym mis Hydref mi wnes i gyfaddef fy mod wedi gwylio Clueless am y tro cyntaf a fy mod am wneud post yn son am wardrob ddillad ffantastig Cher Horowitz; y ferch ffasiynol yn y ffilm!

Back in October, I confessed that I had watched Clueless for the first time and that I would do a post about Cher Horowitz's (the fashionable girl in the film) fantastic wardrobe!

Felly heddiw, dyma fo! I ddechrau, dyma ychydig o luniau o Cher a'i ffrindiau am ysbrydoliaeth steil.

So today, here it is! To start with, here are some photos of Cher and her friends for style inspiration.





 




 




































Nesaf, dyma fy hoff ddillad tartan sydd ar werth ar y stryd fawr ac ar lein, i gopio golwg cwl Cher.
 
Next, here are my favourite tartan clothes for sale on the high street and online, to copy Cher's cool look.




Siorts gwyrdd a glas,
Green and blue shorts,
£34, Topshop:



Sgert wedi ei phlethu,
Pleated skirt,
£14.99, Missguided.co.uk:







Crys glas,
Blue shirt,
£19.90, Uniqlo.com:





Cot goch a du (dewis o un wen a du hefyd),
Black and red coat (choice of a black and white one too),
£34.99, Missguided.co.uk:
 


 
 
 


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 


4 December 2013

Ffeiriau Nadolig


Dwi wrth fy modd yn mynd o gwmpas ffeiriau nadolig yr adeg yma o'r flwyddyn; yn chwilio am grefftau a phresantau bach unigryw  cael teimlo'n nadoligaidd iawn gyda'r holl oleuadau ac addurniadau nadolig sydd pob amser o amgylch y lle.

Un ffair nadolig swn i yn hoff iawn o ymweld a yw'r Farchnad Nadolig yn Bath. Bath yw un o fy hoff ddinasoedd oherwydd y tai crand, prydferth, y baddonau hanesyddol, diddorol, y siopau da mewn adeiladau hardd, yr afon a'r bontydd, yr eglwys fawr, a'r ffaith fod Jane Austen wedi byw yno a gallwch fynd i weld ei chartref hi a'r amgueddfa sydd amdani. Os hoffech chi fynd i'r farchnad mae hi ymlaen rwan tan Rhagfyr 15.



















Ond, i drafod materion yn agosach at adref, rydw i wedi bod yn ffair nadolig Oriel Mon a Glynllifon ac yn y ddwy ffair gwelais grefftau ddaru ddal fy llygaid. Yn enwedig stondin cwmni o'r enw Dyfal Donc sy'n creu eitemau i'r cartref, cardiau, a gemwaith unigryw iawn.



Mae eu cardiau nadolig Cymraeg yn berffaith ar gyfer rhoi i ffrindiau a teulu a mae'r un hardd yma yn ddim ond £2.25.























Mae eu drychau poced yn ddim ond £4 a gyda lluniau doniol arnynt gydag ysgrifen Saesneg a Chymraeg.























Yn fy marn i mae yna rhywbeth hyfryd iawn yn eu mwclisau a mae'r un siap calon yma gyda print blodau arno yn £12.




 
 

Mae'r cwmni yn hoff iawn o roi pethau o'r byd natur ar eu cynhyrchion; anifeiliaid, adar a blodau. Ewch ar www.dyfaldonc.com i weld mwy.















27 November 2013

Ikea Heaven



Wicend diwethaf esi i aros i Warrington, jest tu allan i Lerpwl, ac oherwydd fod y siop mor agos i fy Travel Lodge i, roedd rhaid i mi fynd i Ikea! Mae'r lle yn nefoedd i mi; dwi wrth fy modd yn cerdded o gwmpas yn sbio neu'n mynd i mewn i'r holl stafelloedd prydferth mae'r gweithwyr yn y dillad melyn a glas wedi bod yn brysur yn eu creu. Y fflatiau bach yw fy ffefryn i; pob 'fflat' wedi ei wneud i greu'r lle lleiaf posibl ond dal digon o le i gael cegin, stafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely reit drws nesa i'w gilydd neu mewn dull open-planned. Dwi wir eisiau byw mewn un o'r fflatiau bach yno; jest fi ar ben fy hun! Buasa'n hyfryd! Felly, wrth i mi fynd o gwmpas yn meddwl pa bethau swn i'n hoffi yn fy fflat, dyma fi'n tynnu lluniau o'r pethau oedd yn dal fy llygaid. A dyma nhw:


Last weekend I went to stay to Warrington, just outside Liverpool, and because the shop was so close to my Travel Lodge, I had to go to Ikea! The place is heaven to me; I love walking around, peeping or going into all the pretty rooms which the workers in the blue and yellow clothes have been busy creating. The mini appartements ar my favourite; every 'appartement' has been built to create as little space as possible but there is still enough room for a kitchen, a living room, a bathroom and a bedroom right next to each other or in an open-planned format. I truly want to live in one of those little appartements; just by myself! It would be wonderful! So, as I went round wondering which things I would like in my fflat, I took photos of the things that caught my eye. And here they are:





Cloc handi i roi ar wal y gegin
A handy clock to put on the kitchen wall
£12





















Tegan cwningen ciwt i roi ar fy ngwely
A cute rabbit toy to put on my bed
£5
 





 
 


Drych arbennig sy'n dangos POPETH yn glir
A special mirror that shows EVERYTHING clearly
£3.50


 
 
Cadair sy'n troi i roi wrth fy nesg
A swivel chair to go behind my desk
£13
 
 



Clustog ffasiynol
Fashionable cushion
£13









 
 
 
Bocsys blodeuog neu gwellt i gadw stwff
Floral or straw boxes to keep stuff
£3.50
 
 


Gwydrau ciwt
Cute glasses
£0.50

 
 
 
 
 
Dillad gwely tebyg i Cath Kidston
Cath Kidston-like bed covers
£20

 








 
 
Canfas Audrey Hepburn i roi ar y wal
Audrey Hepburn canvas to put on the wall
£25
  
 
 
 
Blanced binc ofnadwy o flewog
Really fluffy pink blanket
£20
 
 
 
 
 
A dyna chi! Rwan gobeithio eich bod chi yr un mor awyddus i fynd i Ikea a ydw i i fynd yn ol yno!
 
And there you are! Now I hope you are as keen to go to Ikea as I am to go back there!  
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

17 November 2013

Trip i Tesco


Dydd Gwener diwethaf es i Tesco am dro, felly roedd rhaid i mi sbio i weld pa ddillad oedd ar werth yn y siop, jest rhag ofn i mi weld rhyw eitem rhad. Y tric efo Tesco ydi i chwilio yn ofalus ym mhob man achos ma' 'na lawer o ddillad yna ond dydi pob dim ddim yn rhywbeth y buasa PAWB yn ei hoffi. Ond, mae'n rhaid i mi gyfadda, roeddwn i'n hoff iawn o'r dillad welais yna dydd Gwener, yn enwedig y siwmperi gwlanog a dau eitem ofnadwy o ddel a oedd ar sel.


Dydi hi ddim digon oer i mi wisgo fy nghot fawr Eskimo-ish eto felly mae siacedi mawr, bachgennaidd yn berffaith ar gyfer taflu ymlaen dros siwmper neu gardigan, a rydw i'n hoff o'r siaced yma oherwydd y patrwm tartan ffasiynol a'r llewys lledr sy'n gwneud y dilledyn yn unigryw. A dim ond £15 ydi o; bargen!



Tesco, £15
(anwybyddwch y gardigan a'r siwmper wlanog)
 
 
 
 
 
 
 
 












Ond am rhywbeth niwtral sy'n mynd gyda phopeth ond sydd ychydig drytach, am £34.99, mae'r siaced lwyd yma o H&M yn berffaith.
 

 
 
 
 
 
 
 















Mi ddaru'r got shearling a lledr brown yma ddal fy llygaid oherwydd y gwlan melyn cynnes y tu mewn i'r got, ac oherwydd fod cotiau shearling wedi ymddangos ar llawer o gatwalks yn ddiweddar, yn cynnwys Topshop Unique a'r dylunydd Belstaff. Ac am £25 mae'n ofnadwy o rhesymol am got mor ffasiynol sy'n gallu cymryd lle eich siaced lledr ar ddiwrnodau oer.
 
  

Tesco, £25
(anwybyddwch y pyjamas)



















Cot arall gyda gwlan shearling y tu mewn iddo yw'r siaced ddenim yma o Topshop am £58 mewn glas golau neu thywyll. Mae siaced denim yn boblogaidd iawn y mis yma ond hon yw fy ffefryn oherwydd ei bod digon mawr a chynnes i gael ei defnyddio yn lle cot.



 
































6 November 2013

Pitsa Mini



Be' dachi am neud os dachi'n cyrraedd adra yn llwgu ond does 'na ddim byd yn y ty? Ddaru hyn ddigwydd i fi heddiw felly ces i syniad ardderchog; gwneud rhywbeth iymi allan o'r ychydig o betha oedd gennyf, sef bara, caws, sos coch a tiwna. Oni isio rhwbath mwy na brechdan ond dim rhywbeth trwm iawn, felly roedd pitsa yn aidial!

What do you do if you come home hungry but there's nothing in the house? This happened to me today so I had an amazing idea; cook something out of the few things I had, which was bread, cheese, ketchup and tuna. I wanted something bigger than a sandwich but not something very heavy, so pizza was ideal!



Rhos dau ddarn o fara yn y tostar am ychydig o funudau jest iddo cal tostio ychydig ond dim llawer. Yna rhos sos coch (ond ma tomato puree yn well) ar y ddau ddarn a torri darnau o gaws i roi ar dop hwna. Yna rhos y bara yn y popty i'r caws cael toddi, ond cyn iddo doddi'n gyfan gwbl, rhos mymryn o diwna ar y top a'i roi i mewn eto iddo cael toddi'n iawn. Os oes well gennych chi ham neu thomato neu unrhyw beth arall buasech chi fel arfer yn eu rhoi ar bitsa, yn lle tiwna, gallech chi roi rheiny ar y bara hefyd.

I put two pieces of bread in the toaster for a few minutes just for it to toast a little but not a lot. Then I put the ketchup (but tomato puree is better) on both the pieces and cut pieces of cheese to put on top of that. Then I put the bread in the oven for the cheese to melt, but before it all melted, I put some tuna on the top and put it in again for it to melt properly. If you prefer ham or tomato or anything else you'd normally put on a pizza, instead of tuna, you can put them on the bread too.



Dyma'r canlyniad:

Here's the outcome:



















Ac oedd o actually yn blasu ac yn ogleuo fel pitsa go iawn hefyd! Union run peth jest ddim mor fawr a heb y gost! Handi!


And it actually tasted and smelt like real pizza too! Exactly the same just not as big and without the expense! Handy!



















5 November 2013

Vive la France



I was lucky enough to spend my half term in France, and as I stayed with a lovely French family in a beautiful French house, I had the opportunity to try many new things and act like a little French girl for a week!



These are a few things I noticed whilst I was there:


1.  Nearly all of the houses have colourful shutters on the windows and a boite aux lettres (letter box) by their gates with their names on them (surname first, first name second, e.g, GUILBERT Elsa.)


 
 

2.  They have an aperitif, which is a drink and some nibbles, before a meal. Then they have a starter, a main meal, cheese, and a pudding. They eat all this slowly whilst talking and enjoying their food.


3.   Parents often call their daughter ma choupinette; chou means cute and pinette is slang for petite, which means small. I know understand the name of Karl Lagerfeld's cat: Choupette. Pette can also be slang for petite or could be a play on the Englsih word 'pet'.























4.  Every French family has a plat au fromage in their fridge which they take out at meal times. They eat the cheeses with bread.


5.  They absolutely LOVE bread and you'll always see them at every meal, breakfast, lunch and supper, with a baguette.


6.  The sweets people give out at Halloween are the nicest sweets I've ever had and come in all kinds of fruity, cola, caramel and nougat flavours.


















7.  French children and young people can't necessarily speak English, but they can sing and follow English songs. The ones that were popular when I was there were:

~ Gangnam Style, by PSY
~ Wake Me Up, by Avicii
~ Burn, by Ellie Goulding
~ Let Her Go, by Passenger
~ Roar, by Katy Perry


8.   French women are obsessed with Zara's clean cut clothes, especially the beige trench coat. So very tres chic et elegante.
























9.  They don't like cheese and onion crisps. (Well the girls I met didn't anway!)


10.  The crisps they do like are the best crisp invention ever.
























11.   Every day at precisely 4pm the children have a goute; a drink and something sweet to eat like a cake, a biscuit or a nutella baguette.



12.   There are really good French songs in the French charts as well as well-known English ones, and here is one of my favourites. A song called Papoutai by Stromae:







Et voila, douze trucs que vous connaissez maintenant de France!
(And there you go, twelve things you now know about France!)
















4 November 2013

Gwyl Fwyd Llangollen



Ar Hydref 20fed esi i Wyl Fwyd Llangollen yn Llangollen (wrth gwrs!) lle profais amryw o fwydydd blasus gwahanol. Es i o amgylch yr holl stondinau yn trio darnau o doffi, fudge, siocledi gwahanol, cacennau sbwnj a hyd yn oed cwrw Mws Piws, ond yn anffodus do'n i ddim yn hoff iawn o hwnnw! Well gen i seidar! Ond allan o'r holl stondinau ddaru ddau sefyll allan i mi: stondin bisgedi shortbread wedi eu gwneud yn Aberffraw, Ynys Mon a stondin cacennau bach o'r enw'r Little Round Cakes. Prynais paced o'r shortbreads blasus ac un o'r cacennau crwn, tal. Roedd yna lawer o flasau i ddewis ohonynt ond dewisiais i yr un sticky toffee: sbwnj blas toffi gyda cream melys a saws toffi yn y canol, cream ar y top a darnau bach o siocled Daim ar dop hwnnw. Lyfli jybli!

Dyma fy nghacen fendigedig:
 
 

 
 
 Cewch hyd i fwy fel hyn ar www.thelittleroundcakecompany.co.uk.
 
 
Dyma'r shortbreads sydd ar y wefan www.aberffrawbiscuits.com (ches i ddim cyfle i dynnu llun fy misgedi i oherwydd roedden nhw rhy flasus, roedd rhaid i mi eu bwyta!):
 









 

 
 
 
 
 


13 October 2013

Messy Nessy Chic


Wrth ddarllen blogiau ffaswin, un o fy hoff niddordebau, ddos i ar draws un blog o'r enw Messy Nessy Chic. Gyda enw fel yna roedd rhaid i fi ddarganfod mwy a treuliais llawer o amser yn darllen yr erthyglau gwahanol ar ffilmiau, ffasiwn, llyfrau, bwyd, newyddion, y we, a llawer llawer mwy. Mae'r blog yma yn son am bopeth diddorol a cwl; blog y mae'n RHAID i chi ei ychwanegu i'ch favourites. Ond nid yn unig ydw i'n gefnigennus o'r blog, ond o'r blogwr hefyd; merch ifanc sy'n byw ym Mharis ac yn blogio o'i fflat fechan sy'n edrych i lawr ar strydoedd hardd y brif ddinas ffasiynol! O swn i'n gwneud unrhyw beth i gael mynd i gay Paree rwan! Ce serait magnifique!

Whilst reading fashion blogs, one of my favourite hobbies, I came across one blog called Messy Nessy Chic. With a name like that I had to find out more and I spent a lot of time reading the different articles on films, fashion, books, food, news, the internet, and loads more. This blog is about everything interesting and cool; a blog that you MUST add to your favourites page. But not only I am jealous of the blog, but of the blogger too; a young woman who lives in Paris and blogs from her small apartment that looks down on the fashionable capital city's stylish streets! Oh I'd do anything to be able to go to gay Paree now! Ce serait magnifique!



Un peth arall mae Messy Nessy Chic yn ysgrifennu am yw ei bywyd personol hi, a mae ganddi focs bach ar ochr ei blog yn dweud Confession du Jour, felly dyma fy nghyfaddefiad i heddiw: dwi newydd wylio'r ffilm Clueless am y tro cyntaf. Ffantastig o ffilm!! Sut wnes i allu byw hebddi??! Dwi am definatly ysgrifennu erthygl fer ar steil wych Cher yn y dyfodol agos! Dwi mor gefnigennus o'i cwpwrdd dillad llawn tartan anghygoel!

Another thing that Messy Nessy Chic writes about is her personal life, ad she has a little box on the side of her blog telling us her Confession du Jour, so here's my confession today: I have just watched the film Clueless for the first time. A fantastic film!! How did I manage to live without it??! I will most definatly do a post on Cher's fabulous style in the near future! I am so jealous of her awesome tartan-clad wardrobe!









9 October 2013

Skinted or Minted


So, I was surfing the web, adding to my online wardrobe as I put websites full of beautiful items of clothing that I can't afford to my Favourites list, when I happened to come upon a website called Sheinside.com. The first things that hit me were all of the colourful, patterned blouses, and I found one that very much reminded me of a certain A/W 13 catwalk show. Burberry Prorsum's show where Miss Karlie Kloss strutted down the aisle wearing a dark red blouse printed with white hearts. For those who are minted, the blouse costs £495, but for those skinted girls who love a good bargain, Sheinside.com's blouse looks almost exactly the same and is £13.68.


£495


























£13.68


























And scrolling down the page, I spotted more gorgeous blouses and I can't resist putting up here two of my favourites to show you. I can't believe that they're so reasonably priced! I hope you like them as much as me.


£14.80


£13.68









  

8 October 2013

Rocky Roads


Ma'n rhaid i fi gyfadda, dwi'n rybish am goginio. Fedrai'm 'neud dim byd heblaw microwave meals a hyd yn oed yr adeg yna dwi'm yn siwr am faint ma'r paced i fod i mewn yn y microwave am! Felly, pan wnes i gacennau rocky road gorjys y diwrnod o'r blaen, ro'n i'n meddwl ei fod o'n wyrth! Os ydw i'n gallu 'neud nhw, fedrwch chi; mae nhw'n hawdd ac yn ofnadwy o flasus!
 
I have to admit, I'm rubbish at cooking. I can't do anything except for microwave meals, and even then I'm not sure for how long the packet's supposed to be in the microwave for! So, when I did some gorgeous rocky road cakes the other day, it was a miracle! If I can do them, I know you can; they're easy and incredibly tasty!



I ddechrau efo'i, ffeindiwch sosban a'i lenwi hanner ffordd gyda dwr oer. Yna, torrwch sgwaria o siocled mewn powlen wydr a'i roi i falansio i mewn yn y sosban a rhoi'r sosban ar y hob ar wres isel.

To start with, find a saucepan and fill it halfway up with cold water. Then, tear squares of chocolate in a glass bowl and put it to balance inside the saucepan and put the saucepan on the hob on a low temperature.






 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 



Yn araf bach wnaiff y siocled ddechra toddi, a pan ma' hyn yn digwydd, trowch o gyda llwy bren.

Slowly the chocolate will start to melt, and when this happens, turn with a wooden spoon.
 
 

Rwan, y darn hwyl: dewis beth fydd yn eich rocky roads! Chwiliwch drwy gypyrddau eich cegin am unrhyw fathau o siocled, neu fisgedi, neu ffrwythau sych, neu da-das, neu marshmallows. O! Ac anghofiais ddweud, RHAID i chi wrando ar rhyw fath o gerddoriaeth uchel, motivational wrth goginio. A pwy well na Blondie? Wel, yn fy marn i ma' Debbie Harry yn anghygoel...

Now, the fun part: choose what will be inside the rocky roads! Look through your kitchen cupboards for any kinds of chocolate, or biscuits, or dry fruit, or sweets, or marshmallows. Oh! And I forgot to say, you MUST listen to some kind of loud, motivational music whilst cooking. And who better than Blondie? Well, in my opinion, Debbie Harry is amazing...
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 
 
 
 
 
Ar ol ffeindio lot o sdwff iymi, mae'n bryd torri popeth i ddarnau bach a'u ychwanegu i'r siocled yn y bowlen wydr (ar ol tynnu'r bowlen o'r sosban a rhoi'r hob i ffwrdd, wrth gwrs.) Cymysgwch gyda'r llwy bren tan bod pob dim wedi cael ei foddi gan y siocled.

After finding the yummy stuff, it's time to cut everything into little pieces and add them to the chocolate in the glass bowl (after taking the bowl out of the saucepan and turning the hob off, of course.) Mix with the wooden spoon until everything has been drowned in the chocolate.
 
 

Nesaf, ffeindiwch dre bach a rhoi menyn a grease paper ar ei waelod. Yna, rhowch y gymysgedd y tu mewn a'i wasgaru felly ei fod yn hollol fflat ac yn ffitio'n berffaith i bob cornel o'r tre. Ac yn olaf, ychwanegwch hundreds and thousands neu marshmallows ecstra ar y top.

Next, find a little tray and put butter and grease paper in it. Now, put the mixture inside and spread it so that it's completely flat and fits perfectly in every corner of the tray. And lastly, add hundreds and thousands or extra marshmallows on the top.
 
 

Rwan oll rhaid i chi wneud ydi rhoi'r tre yn y fridge am tua dwy awr, tynnu'r tre allan pan fydd y gymysgedd yn galed a'i dorri mewn ciwbiau bach i roi i bawb. A dyna ni, cacennau rocky road mewn dim. O, a dim bwys os ydi'ch torri chi'n fler, fel fy un i! Dim rhaid i nhw fod yn giwbiau PERFFAITH!

Now all you have to do is put the tray in the fridge for about two hours and take the tray out when the mixture has hardened and cut it into small cubes to give to everyone. And there you go, rocky road cakes in no time at all. Oh, and don't worry if your cutting is messy like mine! They don't have to be PERFECT cubes!







 
 
 
 
 
 
 


2 October 2013

La Musique Française



To mark the end of Paris Fashion Week (which sadly finishes today), here is a few of my favourite French songs. I love listening to music en français, it's such a change from British or American voices and sometimes I pick up a word or two just by listening carefully or reading the video lyrics.


1. T'ES BEAU, Sophie Tith

 
 
 
2. LA SEINE, Vanessa Paradis and Matthieu Cheddid
 
 
 
 
3. PARIS - SEYCHELLES, Julien Dore
 
 
 
 
4. NON, JE NE REGRETTE RIEN, Edith Piaf
 
 
 

5. LES ESPACES ET LES SENTIMENTS, Vanessa Paradis
 
 
 
 
 
6. C'EST LA VIE, Coralie Clement
 
 
 
 
7. TOUS LES GARCONS ET LES FILLES, Francoise Hardy
 
 
 
 
8. JE T'AIME....MOI NON PLUS, Serge Gainsbourg and Jane Birkin
 
 
 
 
9. SIRENES, Delphine Volange feat. Bertrand Belin
 
 
 
 
 
10.  HORS SAISON, Francis Cabrel