23 December 2013

Stylishly Clueless



Yn ôl ym mis Hydref mi wnes i gyfaddef fy mod wedi gwylio Clueless am y tro cyntaf a fy mod am wneud post yn son am wardrob ddillad ffantastig Cher Horowitz; y ferch ffasiynol yn y ffilm!

Back in October, I confessed that I had watched Clueless for the first time and that I would do a post about Cher Horowitz's (the fashionable girl in the film) fantastic wardrobe!

Felly heddiw, dyma fo! I ddechrau, dyma ychydig o luniau o Cher a'i ffrindiau am ysbrydoliaeth steil.

So today, here it is! To start with, here are some photos of Cher and her friends for style inspiration.





 




 




































Nesaf, dyma fy hoff ddillad tartan sydd ar werth ar y stryd fawr ac ar lein, i gopio golwg cwl Cher.
 
Next, here are my favourite tartan clothes for sale on the high street and online, to copy Cher's cool look.




Siorts gwyrdd a glas,
Green and blue shorts,
£34, Topshop:



Sgert wedi ei phlethu,
Pleated skirt,
£14.99, Missguided.co.uk:







Crys glas,
Blue shirt,
£19.90, Uniqlo.com:





Cot goch a du (dewis o un wen a du hefyd),
Black and red coat (choice of a black and white one too),
£34.99, Missguided.co.uk:
 


 
 
 


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 


4 December 2013

Ffeiriau Nadolig


Dwi wrth fy modd yn mynd o gwmpas ffeiriau nadolig yr adeg yma o'r flwyddyn; yn chwilio am grefftau a phresantau bach unigryw  cael teimlo'n nadoligaidd iawn gyda'r holl oleuadau ac addurniadau nadolig sydd pob amser o amgylch y lle.

Un ffair nadolig swn i yn hoff iawn o ymweld a yw'r Farchnad Nadolig yn Bath. Bath yw un o fy hoff ddinasoedd oherwydd y tai crand, prydferth, y baddonau hanesyddol, diddorol, y siopau da mewn adeiladau hardd, yr afon a'r bontydd, yr eglwys fawr, a'r ffaith fod Jane Austen wedi byw yno a gallwch fynd i weld ei chartref hi a'r amgueddfa sydd amdani. Os hoffech chi fynd i'r farchnad mae hi ymlaen rwan tan Rhagfyr 15.



















Ond, i drafod materion yn agosach at adref, rydw i wedi bod yn ffair nadolig Oriel Mon a Glynllifon ac yn y ddwy ffair gwelais grefftau ddaru ddal fy llygaid. Yn enwedig stondin cwmni o'r enw Dyfal Donc sy'n creu eitemau i'r cartref, cardiau, a gemwaith unigryw iawn.



Mae eu cardiau nadolig Cymraeg yn berffaith ar gyfer rhoi i ffrindiau a teulu a mae'r un hardd yma yn ddim ond £2.25.























Mae eu drychau poced yn ddim ond £4 a gyda lluniau doniol arnynt gydag ysgrifen Saesneg a Chymraeg.























Yn fy marn i mae yna rhywbeth hyfryd iawn yn eu mwclisau a mae'r un siap calon yma gyda print blodau arno yn £12.




 
 

Mae'r cwmni yn hoff iawn o roi pethau o'r byd natur ar eu cynhyrchion; anifeiliaid, adar a blodau. Ewch ar www.dyfaldonc.com i weld mwy.