4 December 2013

Ffeiriau Nadolig


Dwi wrth fy modd yn mynd o gwmpas ffeiriau nadolig yr adeg yma o'r flwyddyn; yn chwilio am grefftau a phresantau bach unigryw  cael teimlo'n nadoligaidd iawn gyda'r holl oleuadau ac addurniadau nadolig sydd pob amser o amgylch y lle.

Un ffair nadolig swn i yn hoff iawn o ymweld a yw'r Farchnad Nadolig yn Bath. Bath yw un o fy hoff ddinasoedd oherwydd y tai crand, prydferth, y baddonau hanesyddol, diddorol, y siopau da mewn adeiladau hardd, yr afon a'r bontydd, yr eglwys fawr, a'r ffaith fod Jane Austen wedi byw yno a gallwch fynd i weld ei chartref hi a'r amgueddfa sydd amdani. Os hoffech chi fynd i'r farchnad mae hi ymlaen rwan tan Rhagfyr 15.



















Ond, i drafod materion yn agosach at adref, rydw i wedi bod yn ffair nadolig Oriel Mon a Glynllifon ac yn y ddwy ffair gwelais grefftau ddaru ddal fy llygaid. Yn enwedig stondin cwmni o'r enw Dyfal Donc sy'n creu eitemau i'r cartref, cardiau, a gemwaith unigryw iawn.



Mae eu cardiau nadolig Cymraeg yn berffaith ar gyfer rhoi i ffrindiau a teulu a mae'r un hardd yma yn ddim ond £2.25.























Mae eu drychau poced yn ddim ond £4 a gyda lluniau doniol arnynt gydag ysgrifen Saesneg a Chymraeg.























Yn fy marn i mae yna rhywbeth hyfryd iawn yn eu mwclisau a mae'r un siap calon yma gyda print blodau arno yn £12.




 
 

Mae'r cwmni yn hoff iawn o roi pethau o'r byd natur ar eu cynhyrchion; anifeiliaid, adar a blodau. Ewch ar www.dyfaldonc.com i weld mwy.















No comments:

Post a Comment