Articles


Erthyglau ffasiwn misol ar beth i'w wisgo a lle i brynu.

Os ydych yn darllen fy ngholofn fisol yn Papur Menai, byddwch yn gwybod mai rhain yw'r holl golofnau rydw i erioed wedi eu hysrigfennu i'r papur.


Monthly fashion articles on what to wear and where to buy.

Most are written in Welsh, look for the bold font for English.





O Ben Draw'r Catwalk, gan Miss Steil, Rhagfyr 2013
Fedra i ddim coelio pa mor gyflym mae’r flwyddyn yma wedi gwibio heibio; mae hi bron yn ddolig a dwi’n cofio dolig flwyddyn diwethaf fel tasa fo’n ddoe! Roeddwn i’n cael trafferth chwilio am anrhegion i bawb bryd hynny, ond y tro yma rwyf wedi gwneud ychydig mwy o ymchwil a gobeithio eich bod chi hefyd! Os ddim, mae gen i rai syniadau i chi os oes arnoch chi angen anrheg i ferch. Perfume poblogaidd ar y funud yw un o’r enw Honey gan Marc Jacobs o Debenhams am £41.67; mae’n ogleuo’n hyfryd a mae’r botel yn un a ellir gael ei
chadw am byth fel ornament gan ei bod mor ddel. Fel llyfr, mae’r Rookie Yearbook 1 am £13.99, neu 2 am £10.25, o Amazon.co.uk yn llawn erthyglau clyfar sy’n gwneud i chi feddwl, lluniau ffasiynol, rhestrau o ganeuon cŵl i wrando arnynt, syniadau DIY, a llawer mwy o wahanol bethau wedi cael eu hysgrifennu gan ferched ifanc. Am fwy o anrhegion arbennig, unigryw, o gasys ffôn i glustogau amryliw, ewch ar Etsy.com.
Ond i’ch cael chi yn teimlo’n nadoligaidd tra’n prynu’r anrhegion yma, ewch i chwilio am rywbeth nadoligaidd i’ch hunain, fel siwmper! Dewisiwch yr un llwyd gyda charw aur arno o River Island am £35, un goch gyda’r geiriau Ho Ho Ho arno o New Look am £19.99, un las gyda llun o Sion Corn yn y simdde arno o Littlewoods.com am £30, neu un las golau gyda pengwins arno am £32 o Cath Kidston. Matsiwch y siwmper gyda sanau nadoligaidd o Topshop am £3.50. Yn ogystal â siopio, dwi’n siwr fyddach chi’n mynd i lawer o bartïon y mis yma hefyd, felly rhaid prynu ffrog. Cewch hyd i un binc golau o ddefnydd lace am £49 o Topshop, un wyrdd tywyll, felfed, dynn am £24.99 o Missguided.co.uk, ac un hir, goch gyda slit yn yr ochr i ddangos un goes, am £75 o Lipsy.co.uk. Gwisgwch gyda sodlau o New Look neu Nelly.com. Ond am rhywbeth fwy casual ond dal yn ffasiynol, prynwch ffrog dynn patrwm tartan gyda choler wen o Primark am £17. Trend poblogaidd y mis yma sydd wedi ei weld ar gatwalk Versace a’r dylunydd Jonathon Saunders yw dillad yn y defnydd PVC neu lledr smal. I gopio’r modelau, gwisgwch dop sidan ysgfan gyda’r sgert bensil ddu, dynn o River Island am £35 neu’r sgert fer, lliw plwm, skater o ASOS.com am £30. Fel gemwaith, prynwch glust-dlysau hir, dros ben llestri, fel y rhai sy’n groesau aur o Bershka.com am £7.99.
A dyna ni: syniadau ffasiynol am Ragfyr llawn steil, ac os yr hoffech fwy o ysbrydoliaeth ar unrhyw beth o beth i’w wisgo i beth i’w fwyta, ewch ar fy mlog newydd, sef
Miss-Steil.blogspot.co.uk.




O Ben Draw'r Catwalk, gan Miss Steil, Tachwedd 2013
Ar ôl pedair sioe ffasiwn anferthol ym mhedair o ddinasoedd fwyaf ffasiynol y byd: Efrog Newydd, Paris, Milan a Llundain, mae’n bryd ychwanegu eitemau angenrheidiol i’ch cwpwrdd dillad. Gan ei bod hi’n fis Tachwedd a’r tymheredd yn dechrau gostwng yn araf, rhaid prynu côt newydd, a’r tymor yma mae’r lliw pinc ym mhob man. Wedi ei weld ar catwalk Céline a Mulberry, y gôt binc yw’r peth i’w phrynu. Cewch hyd i un fer, olau gyda choler o Zara am £79.99 ac un hir, ychydig tywyllach o M&S am £85.
Ond dim cotiau yn unig sy’n binc y mis yma, ond trowsusau hefyd. Rydw i wrth fy modd gyda’r jîns pinc golau o Topshop am £38, ond i’r rhai ohonoch sy’n hoff o liwiau tywyll, mae jins lliw plwm fel y rhai tynn o H&M am £14.99 a trowsusau lledr du fel y rhai o Topshop am £42 a River Island am £35 hefyd yn boblogaidd iawn. Gwisgwch nhw gyda siwmper fflwffiog fel yr un werdd golau o River Island am £35, yr un wen o Miss Selfridge am £39 a’r un las golau o Asos.com am £18. Trend ffasiynol iawn y mis yma yw’r patrwm tartan neu plaid; sgwariau lliwgar y buasech chi’n debygol o weld Albanwr yn eu gwisgo. Gan fod y print wedi ei weld ar catwalk pawb o Moschino i Stella McCartney, mae siopau’r stryd fawr wedi llwyddo i’w copïo. Prynwch sgert sgwariau gwyn a du am £28 a thop am £18 i fatsio o Dorothy Perkins, pinaffôr goch, gwyrdd a glas am £25 o Meemee.com, trowsus gwyn a du o Forever 21 am £18.75, sgert hir goch a glas am £12 o Boohoo.com, sgarff o H&M am £9.99, a chrysau bob lliw o Uniqlo.com am £19.90. Patrwm arall hardd a gafodd ei weld ar gatwalk Burberry oedd print calonnau coch tywyll a gwyn, a chewch hyd i flows debyg iawn i’r un designer o Sheinside.com am £13.60. Ac yn olaf, fel esgidiau, prynwch bâr o fŵts bychain du neu lliw plwm gyda bwcl aur neu arian o H&M am £29.99.
A dyna ni: syniadau ffasiynol am Dachwedd llawn steil, ac os yr hoffech fwy o ysbrydoliaeth ar beth i’w wisgo a lle i i’w prynu, ymwelwch â’m hoff blogiau ffasiwn, Mademoisellerobot.com, Opheliahorton.com a Streetpeeper.com.




O Ben Draw’r Catwalk, gan Miss Steil, Medi 2013
Fedra i ddim coelio bod gwyliau’r haf wedi dod a mynd yn barod a phawb yn barod i fynd yn ôl i’r ysgol, i’r brifysgol neu’r gwaith. Ond peidiwch â phoeni, does dim angen teimlo’n drist fod y rwtîn arferol, diflas, i rai, yn ail-gychwyn, oherwydd gyda thymor newydd daw ffasiwn newydd! Ac i ddathlu hynny mae Rihanna wedi gwneud ei hail gasgliad o ddillad i River Island a gaiff ei lawnsio ar Fedi 12, ond brysiwch oherwydd dim ond cant o bob eitem sydd ar werth ac mae’r prisiau’n cychwyn ar £10.
Patrwm poblogaidd iawn y mis yma y mae pob merch ei angen yn ei chwpwrdd dillad yw’r print llewpart. Fy hoff eitemau’n y print yw’r gôt law ysgafn o Topshop am £45, y siorts a’r top gwyrdd a du i fatsio am £14.75 a £10.50 o Forever 21, y bag cefn Mi-Pac am £19.80 o Amazon.co.uk, y flaser am £15 o Boohoo.com a’r sgert bensil werdd a du am £15 o Topshop. Tra’n sôn am sgert bensil, mae’n ddilledyn ffasiynol iawn y mis yma, enwedig un gyda phatrwm arni fel sydd wedi cael ei weld ar gatwalk y dylunydd Louise Gray. Os, fel hi, rydych yn berson hyderus, gwisgwch hi gyda thop patrymog hefyd, ond i wneud gwisg yn syml ond effeithiol gwisgwch hi gyda blows wen neu ddu plaen fel  y rhai am £14.99 o H&M. Rydw i’n hoff o’r sgert bensil print neidr am £19.59 o Macys.com a’r un flodeuog lliwgar o Zara am £29.99. Trend arall ar gatwalk Burberry a’r brand Sass & Bide ydi lledr du sgleiniog; mae’r wefan Missguided.co.uk wedi llwyddo’n wych i’w copïo gyda’u ffrog heb lewys am £22.99, eu siorts am £14.99 a’u siaced pêl-fâs am £34.99. Dantaith i bob merch sydd wrth eu bodd â’r byd ffasiwn ac sy’n gwybod llawer am modelau y foment, yw gwefan o’r enw Blackscore.co.uk sy’n gwerthu crysau-T unigryw gyda lluniau o bobl ffasiynol â geiriau clyfar arnynt. Un yw crys-T am £40 gyda llun y model enwog Georgia May Jagger arno a’r ysgrifen Got Swagger oddi dano. Yn olaf, awn yn ôl mewn amser y mis yma a phrynu esgidiau yr oedd pawb yn eu gwisgo pan yn blant: esgidiau jeli. Cewch hyd i rai pob lliw o’r enfys ar Linzishoes.com am £15. Gwisgwch nhw gyda sanau â ffriliau o Topshop ar ddiwrnodau oer.
A dyna ni: syniadau ffasiynol am Fedi llawn steil, ac os yr hoffech fwy o gyngor ar beth i’w wisgo, ymwelwch â Dressipi.com lle gallwch dderbyn  e-byst  aml gan eich steilydd dillad eich hun yn eich cynghori ar beth sydd orau i’w wisgo ac yn lle.


From the Edge of the Catwalk, by Miss Style, September 2013
I can’t believe that the summer holidays have come and gone already and everyone ready to go back to school, to university or to work. But don’t worry, there’s no need for you to be unhappy that the usual, boring routine is re-starting, because a new season brings new fashion! And to celebrate that, Rihanna has made her second clothes collection for River Island which is launching on September 12th, but hurry as only a hundred of every item is for sale and the prices start at £10.
A popular pattern this month that every girl should have in her wardrobe is leopard print. My favourite items in the print is a light raincoat from Topshop for £45, lime green and black top and shorts to match from Forever 21 for £10.50 and £14.75, a Mi-Pac backpack for £19.80 from Amazon.co.uk, a blazer for £15 from Boohoo.com and the green and black pencil skirt from Topshop for £15. Whilst talking about the pencil skirt, it is a very stylish item this month, especially one with a crazy pattern on it like the ones that have been seen on the Louise Gray catwalk. If, like her, you are a confident person, wear your skirt with a patterned top to clash, but to keep it simple but effective wear with a white or black plain blouse like the £14.99 ones from H&M. I like the snake print pencil skirt from Macys.com for £19.59 and the colourful flowery one from Zara for £29.99. Another trend seen on Burberry and Sass & Bide catwalks is black, shiny leather; the website Missguied.co.uk has managed to successfully copy the designers with their sleeveless dress for £22.99, their short shorts for £14.99 and their baseball jacket for £34.99. A treat for every fashionista who knows everything about the models of the moment, is a website called Blackscore.co.uk which sells cool, unique t-shirts with pictures of stylish people and clever slogans on them. One t-shirt for £40 has a picture of Georgia May Jagger on the front and the words ‘Got Swagger’ underneath. Lastly, let’s go back in time this month and buy shoes we all had when we were little: jelly shoes. You’ll find some in every colour of the rainbow on Linzishoes.com for a bargain price of £15. Wear with frilly socks from Topshop on cold days.
And voi là: fashionable ideas for a September full of style, and if you’d like more advice on what to wear, visit Dressipi.com where you can receive e-mails from your own personal stylist, advising you what’s best to wear to different events.





O Ben Draw’r Catwalk, gan Miss. Steil, Mehefin 2013
Y ffilm y mae pawb yn son amdano ar y funud ydi The Great Gatsby sydd wedi bod yn y sinema ers Mai 16. I’r rhai sydd wedi darllen y llyfr enwog gan F.Scott Fitzgerald, mae’r ffilm yn mynd dros ben llestri braidd efo’r holl ramant a’r trais, ond mae’r ffasiwn yn anghygoel! Cafodd y gwisgoedd i gyd eu gwneud yn arbennig gan Miuccia Prada a’r gemwaith gan Tiffany’s. Wrth gwrs, mae’r stryd fawr yn sicrhau fod pawb yn cael blas ar ddillad y 1920au, fel Oasis sydd gan ffrog syml ddu a gwyn gyda phatrwm unigryw sy’n cael ei alw’n ‘print Gatsby’ am £55. Gwisgwch gyda band gwallt arian disglair o Isme.com am £22 a clust-dlysau hir arian sgleiniog o Next am £12.
Ond yn ol i’r presennol, ac i batrwm dydym ni ddim yn gweld sêr Gatsby yn ei wisgo; printiau anifeiliaid. Wedi ei weld gan y dylunydd Felder Felder ar y catwalk, y ffordd orau i drio’r trend yma ydi prynu siorts print llewpart fel y rhai brown a du o Boohoo.com am £15 neu rhai gwyrdd golau a du o Forever 21 am £14.75.  Mae’r sodlau print sebra am £42.95 o Nelly.com hefyd yn ddel iawn, a fel eitemau print neidr, cewch fag clutch gwyrdd am £23 a Awear.com  a blows glas-biws gan Love Label o Very.co.uk am £25. Gwisgwch y flows gyda siorts gwyn am £38 o Oasis am olwg smart a chŵl. Mae’n rhaid i fi gyfaddef, rydw i’n hoff iawn o’r  dillad y mae’r chwiorydd Kardashian wedi eu dylunio yn ddiweddar i Dorothy Perkins, a mae ganddyn nhw siorts smart hefyd, ond rhai lliw hufen am £35. Mae’r sgert fer lliw hufen am £35 hefyd yn eitem perffaith ar gyfer yr haf sydd yn mynd gyda popeth, ond i’r tywydd od yma sydd ddim yn gynnes nag yn oer, prynwch sgert hir fel yr un flodeuog o Topshop am £38. Gwisgwch gyda blows llewys byr du o Miss Selfridge am £30 i edrych yn union fel modealu Dior ar y catwalk. Trend ffasiynol arall y tymor yma yw dillad metalig a cewch hyd i sgert bensil frown o Missguided.co.uk am £16.99 a top arian sgleiniog o Asos.com am £30 a fuasa’n edrych yn hyfryd gyda trowsus smart i’r gwaith neu i barti. Yn olaf, i’r rhai ohonoch sy’n meddwl am fynd ar wyliau i wledydd poeth yn barod, mae gan H&M gasgliad da o wisgoedd nofio a siorts denim am £14.99.
A dyna ni: syniadau ffasiynol am Fehefin llawn steil, ac os yr hoffech fwy o ysbrydoliaeth ar beth i’w wisgo a beth i’w wneud, ewch ar Rookiemag.com a Becauselondon.com.





O Ben Draw’r Catwalk, gan Miss. Steil, Mai 2013
Fedra i ddim coelio’r peth! Mae hi’n dechrau brafio o’r diwedd! Yn wir, mae’r ahf ar ei ffordd! A sut ffordd gwell i ddathlu na phrynu sbectol haul newydd i’ch hun? Mae Asos.com yn gwneud rhai gwych a fy hoff bâr yw’r rhai gan y dylunydd AJ Morgan mewn patrwm cragen crwban am £15. Pan mae hi’n ddigon cynnes i wisgo ‘sgidiau heb sanau, ewch i chwilio am sandalau ffasiynol fel rhai arian fflat o Debenhams am £30 neu bŵts strap du gyda mymryn bach o sawdl o Topshop am £75. Drud ond mae nhw’n gyfuniad perffaith o fŵt a sandal, a felly’n berffaith i wisgo yn y tywydd yma a wnaiff y lledr bara am byth.
Ond rhaid meddwl am ychwanegu ychydig o’r teimlad hafaidd i’ch dillad hefyd, a’r ffordd gorau i wneud hynny ydi cael seibiant bach o drowsusau a herio’ch hun wrth brynu sgert. Sgert boblogaidd oedd i’w gweld ar y catwalk gan Michael Kors, Burberry a Prada oedd y sgert A-line. Yn anffodus, dydw i ddim yn siŵr beth yw’r gair yn Gymraeg ond mae’r sgert yn debyg i siap trapesiwm â fuasa’n gweithio’n dda hyd at y ben-glin ar gyfer diwrnod yn y gwaith neu un fer ar gyfer noson allan. Cewch rai gwahanol liwiau o Boden.co.uk am £45 neu un fyrrach print blodau du a gwyn o Forever 21 am £11.50. Gwisgwch gyda crys neu flows a blaser am olwg smart neu chrys-T neu crop top am olwg cwl. Mae dewis eang o crop tops i’w cael yn Topshop a buasent yn mynd yn ddel hefyd gyda sgert skater oren o’r un siop am £22 neu un denim o New Look am £14.99. Yn sôn am oren, mae yn liw poblogaidd iawn y mis yma a un o fy hoff narnau yn y lliw yw siwmper denau lliw gwenyn o Zara am £19. Trend arall ffasiynol yw’r print blodau a mae’r crys blodeuog lliwgar o Oasis am £60 a’r trowsus i fatsio am £45 yn edrych yn union fel y wisg oedd modelau y dylunydd Clements Ribeiro yn gwisgo ar y catwalk. Am rhywbeth ychydig rhatach, cewch hyd i drowsus gyda blodau coch arno o Asos.com am £22 neu un gyda blodau pob lliw o’r enfys arno o H&M am £14.99. Dylech hefyd wybod fod sêl ymlaen yn H&M Bangor yn gwerthu trowsusau a jins print a phlaen am cyn rhatad â £5 a £7, felly ewch draw ar wib cyn iddyn nhw gyd ddiflannu!
A dyna ni: syniadau ffasiynol am Fai llawn steil, ac os yr hoffech fwy o ysbrydoliaeth ar sut gemwaith i’w wisgo, ymwelwch a Vintagecloset.org.uk, Somethingindie.com a Rocknrose.co.uk.






O Ben Draw’r Catwalk, gan Miss. Steil, Ebrill 2013
Mae hi’n wanwyn o’r diwedd felly gobeithio y bydd y tywydd yn gwella, oherwydd mae miloedd o drendiau newydd ar y catwalk a miloedd o ddillad newydd yn y siopa! Ond cyn dechrau gwario ar y pethau newydd, rhaid prynu un peth sydd wedi bod mewn steil ers erioed: côt i’ch cadw’n gynnes, oherwydd dydi Gwanwyn ddim yn golygu haul pob tro. A’r gôt yw siaced sy’n debyg i’r un ledr gyffredin, ond mae hi’n swêd ac yn dod mewn lliwiau llachar. Prynwch eich un chi o H&M am £29.99 a dewisiwch yr un binc; lliw sydd wedi ymddangos ym mhob man ar y catwalk. Os hoffech rhywbeth fwy anturus, ewch am y print dalmation modern wrth brynu cot hir yn y print yma o Zara am £89.99. Drud ond o mor ffasiynol!
Ond rhaid cychwyn ar drefnu ac adnewyddu eich cwpwrdd dillad, felly yn gyntaf oll gadewch i ni ychwanegu at y trend lliwiau llachar, ond gyda blaseri. Ffeindiwch flaser goch, flodeuog neu streipiog yn River Island a gwisgwch un blaen gyda top patrymog fel y top spotiau du a gwyn o Topshop am £32, sydd yn ffasiynol iawn gan fod spotiau a sgwariau wedi cael eu dangos gan Louis Vuitton ar y catwalk. Ffordd arall cŵl i weithio’r trend du a gwyn yw prynu dungarees du o River Island am £40 a chrys-T gwyn o Asos.com am £7 i fynd oddi tano. Gall y crys-T hwn hefyd fynd gyda sgert skater wen o H&M am £30. Gan ein bod yn sôn am dunagrees, dilledyn yr oedden ni’n ei wisgo pan yn fach, mae’r pianfore hefyd mewn ffasiwn a cewch hyd i un denim yn Miss Selfridge am £40 a gwisgwch gyda chrys-T a theits. Patrwm arall poblogaidd yw’r print neidr a ffordd dda o’i wisgo yw mewn ffurf treinyrs gan fod y ‘sgidia rwan yn cael eu gwisgo ar y stryd ac wrth wneud chwaraeon.  Prynwch rhai Air Max gan Nike am £150 neu os ydych chi ond eisiau rhai plaen cewch hyd i rai Converse ar Schuh.com. I gopio steil Christopher Kane ar y catwalk, a Victoria Beckham sydd i’w gweld yn gwisgo rai wrth siopio, ewch am bar o fŵts Chelsea fel y rhai du o Missguided.co.uk am £35.99. Fel gemwaith, meddyliwch am ddarnau mawr a chofiadwy; clustdlysau hir lliwgar a mwclisau trwm fel yr un perlau o Zara am £19.99 sy’n edrych yn union fel un Chanel.
A dyna ni: syniadau ffasiynol am Ebrill llawn steil, ac os yr hoffech fwy o ysbrydoliaeth ar edrych a theimlo’n dda, ewch ar Vagendamag.blogspot.co.uk; blog s’yn cynnwys pob dim merchetaidd a sy’n perswadio pawb i feddwl fod merched yn well na dynion.






O Ben Draw’r Catwalk, gan Miss. Steil, Chwefror 2013
Gobeithio y cawsoch chi gyd Ddolig hyfryd a llawer o anrhegion newydd, yn cynnwys dillad, a’ch bod chi’n barod am y flwyddyn sydd i ddod! Mae 2013 wedi cychwyn yn oer iawn a mae hi hyd yn oed wedi bod yn bwrw eira mewn rhai llefydd, felly y gamp ydi i chwilio am eitemau sy’n gynnes ac yn ffasiynol. Ar eich pen, gwisgwch gap beanie, fel un glas gyda pom pom gwyn ar y top o Asos.com sy’n £10, neu mae yna lawer o rai del i ferched a bechgyn yn Topman. Fel menig, cewch rai glas-wyrdd, gwlân, wedi’u gweu o French Connection am £13 neu mae gan Accessorize fenig llai gyda phatrymau ciwt arnynt. Yn olaf, i ychwanegu ychydig mwy o gynhesrwydd i’ch côt, prynwch goler ffwr fel un du o Warehouse am £10 neu un print llewpart am £8 o Boohoo.com.
Ond wrth i ni symud ymlaen o’r dyddiau oer, rhaid llenwi’ch cwpwrdd dillad gyda trendiau newydd y Gwanwyn. Patrwm fydd yn boblogaidd iawn fydd streips a mae’n bosib cymysgu llinellau llorweddol gyda fertigol a llinellau tew gyda tenau. Cewch hyd i siwmper streipiog du a gwyn o Zara am £45 a sgert bensil o River Island am £30. Patrwm arall yw check a mae hwn yn edrych orau ar grysau fel y rhai ar Uniqlo.com am £20. Gwisgwch o dan siwmper wlanog lwyd neu wedi ei agor gyda chrys-t gwyn oddi tano. Os ydych yn ddigon dewr, beth am ddilyn y trend patrwm teils sydd i’w weld ar y catwalk yn Paris gan Chanel, gan brynu siwmper print teils o H&M am £30. I gael newid bach o siwmperi, copiwch steil Christopher Kane ar y catwalk drwy adnewyddu eich cwpwrdd gyda blaser felfed, fel un glas tywyll o Mango am £49.99 neu un du o Monki.com am £50. Ar eich coesau, chinos lliw fydd yn boblogaidd y misoedd nesaf yma, fel rhai glas o Asda am £6 neu rhai brown o Owntherunway.com am £12.99. Yn olaf, fel topiau, mae crysau-t gyda sloganau a lluniau unigryw arnynt yn cŵl iawn a chewch hyd i lawer o rai gwahanol fel un gyda llun o Marilyn Monroe arno, un sy’n dweud Céline arno, neu un gyda logo Chanel arno, ar Etsy.com am ddim mwy na £15. I ddweud y gwir, gallwch ffeindio pob mathau o eitemau gwahanol iawn ar Etsy a gallwch hefyd werthu pethau eich hun arno.
A dyna ni: syniadau ffasiynol am Chwefror llawn steil, ac os yr hoffech ysbrydoliaeth gyda’ch colur, yn enwedig eich gwinedd, dilynwch @IllustrateNail ar trydar neu ewch ar wefan y ferch ddawnus, sef Theillustratednail.tumblr.com.



 
O Ben Draw’r Catwalk, gan Miss. Steil, Hydref 2012
Mae’r gaeaf wedi dod a’r tywydd yn oeri, felly mae’n bryd chwilota yn y siopa am eich côt berffaith. Mae yna lawer o steiliau gwahanol i ddewis ohonynt fel côt ffwr fflwffiog du a gwyn o Dorothy Perkins am £69, un fachgennaidd syml o Asos.com am £44, trench fotymog gyda belt am £65 o Sainsbury’s, côt brint armi o Urban Outfitters am £48 a parka frown gyda hwd cynnes am £80 o River Island.
Ond i wisgo oddi dan eich côt ffasiynol, mae pob merch angen siwmper fawr i gadw’n gynnes a chlud. I gopio trend Burberry ar y catwalk, gallwch brynu siwmper brint anifeiliaid fel un gyda llun o dylluan arno am £37 o Miss Selfridge neu un gwningod am £46 o Topshop. Mae lliwiau tywyll, hydrefaidd hefyd yn boblogaidd y mis yma, a mae’r siwmper goch, wlanog o Matalan am £14 yn berffaith, yn ogystal â’r gardigan drwchus, gwyrdd tywyll o New Look am £17.99. Fel esgidiau i gadw’ch traed yn gynnes a chyfforddus, prynwch pâr o fŵts bach du am £16 o Asda a gwisgwch nhw gyda throwsus lledr du o Boohoo.com i edrych yn cŵl a ffasiynol! I’r rhai sy’n mynd i bartion y gaeaf yma, Zara yw’r lle gorau i brynu sodlau, a thra rydych yno, diweddarwch eich cwpwrdd dillad gyda blaser neu siaced ledr o’r siop; drud ond wnaiff hi bara am byth a byddwch yn ei charu. Wrth sôn am ledr, mae’r defnydd yn un fydd pawb yn ei wisgo y mis yma a chewch hyd i sgert ledr ddu blethedig o Debenhams am £18. Os dydych ddim eisiau gwisgo sodlau, prynwch sliperi; dim y math rydych yn eu gwisgo adref, ond y math y mae hyd yn oed pobl enwog, fel y gantores Rita Ora,  yn eu gwisgo allan ar y stryd. Cewch rhai disglair arian neu aur o Asos.com am £22, rhai pinc golau o Republic am £25, a rhai du gyda wyneb cath ar y blaen sy’n edrych union fel y rhai a welwyd ar draed Alexa Chung, am £23.99 o Missguided.co.uk. Yn olaf, gwobreuwch eich hun gydag ychydig o emwaith newydd, gwahanol gyda phrisiau rhad a rhesymol o stolenthunderboutique.com, hannahmakesthings.com a frassyrags.com.
A dyna ni: syniadau ffasiynol iawn am Hydref llawn steil, ac os yr hoffech fwy o ysbrydoliaeth ar beth i wisgo neu lle i brynu darnau gwahanol, ewch ar Theclothesmaiden.com lle gallwch ymweld â blog a phrynu cylchgrawn ffasiwn prydferth.




O Ben Draw’r Catwalk, gan Miss. Steil, Medi 2012
Yn anffodus mae’r gwyliau haf wedi gorffen ac mae’n amser i bawb fynd yn ôl i’r ysgol, coleg neu’r gwaith. Llechan lân, tymor newydd, a beth hoffwn i gredu: tymor newydd llawn steil. Fydd pawb yn cystadlu am y gorau i edrych yn ffasiynol yn yr ysgol a’r coleg, yn enwedig y merched gyda’u bagiau a’u casys pensiliau. Cewch fag cefn lledr brown neu ddu o Matalan am £12 neu un glas spotiog o Accessorize am £35. Fel cas pensiliau, mae yna rhai prydferth iawn ar Cathkidston.co.uk am £8.
Ond pan rydych adref mae’n bryd prynu dillad ffasiynol ar gyfer y mis yma, a mae printiau blodeuog am fod yn boblogaidd iawn yn nhymor yr Hydref. Felly prynwch drowsus blodeuog glas, coch a gwyrdd o New Look am £28, a gwisgwch gyda thop print i glasio neu crys-t gwyn o Americanapparel.co.uk am £16. Mae crys gwyn hefyd yn ddilledyn yr aiff gyda phopeth a rhaid i bob merch fod yn berchen ar un oherwydd gallwch ei wisgo gyda throwsus smart, sgert, o dan siwmper wlanog neu hyd yn oed o dan ffrog! Felly prynwch un syml o Uniqlo.com am £14.90 neu un peplwm gyda choler arian ddisglair o H&M am £29.99. Mae llawer o ddylunwyr ffasiwn fel Burberry a Dior wedi bod yn dangos topiau peplwm ar y catwalk, a rwan mae siopa’r stryd fawr yn eu copïo. Un arall o fy ffefrynau o’r steil yma ydi un print sebra o Bank am £22. Gwisgwch gyda jins tynn a sodlau i edrych yn ffasiynol iawn! Dilledyn arall fydd o fudd i chi y mis yma ydi siorts; newidiwch eich rhai denim, hafaidd i rai cotwm neu sidan i wisgo gyda blows smart. Cewch bâr du o Mandco.com am £10, pâr blodeuog o Asos.com am £32 a  llawer mwy o rai gwahanol o Topshop. Fel ffrog, chwiliwch am un dynn, bodycon sy’n berffaith ar gyfer dawnsio mewn parti ac i ddilyn trend 90au’r tymor yma. Prynwch un ddrud, wen o Owntherunway.com am £44.99 neu un rhad, liwgar o Quizclothing.co.uk am £9.99. I addurno eich gwallt gwisgwch fand blodau neu sgarff sidan i gopïo pobl enwog fel y gantores Rihanna a’r dylunydd Pucci ar y catwalk. Cewch hyd i sgarffiau fel hyn ym mhob man, gan gynnwys un gwyrdd blodeuog o Accessorize am £12.
A dyna ni: syniadau ffasiynol am Fedi llawn steil, ac os yr hoffech fwy o ysbrydoliaeth am beth i wisgo, ewch ar Youtube.com/clothesencounters i wylio llawer o fidios ar sut i wneud dillad eich hun a lle i brynu’r darnau prydferthaf.






O Ben Draw’r Catwalk, gan Miss. Steil, Gorffennaf 2012
Mae yna ffasiwn newydd sy’n herio bechgyn a dynion o bob oed i wisgo sgertiau a ffrogiau. Ia, ffrogiau! Wrth gwrs, y dylunwyr enwog fel Jean-Paul Gaultier a Givenchy sydd wedi dechrau’r steil gwallgof ac mae rhai sêr wedi bod yn eu gwisgo’n barod. Gwelwyd Marc Jacobs yn gwisgo ffrog ddu dryloyw ar y carped coch a’r canwr Kanye West mewn sgert ledr ar y llwyfan. Er hyn dydw i ddim yn meddwl byddem ni’n gweld hogia’r fro hon yn gwisgo ffrogiau’n fuan!
Ond i ferched mae ffasiwn yn llawer haws a llawer gwell, yn fy marn i, ac i gychwyn yr haf yn ffasiynol mae pob merch angen prynu siorts a sbectol haul cŵl. Cewch siorts denim, streipiog neu flodeuog o Miss Selfridge am £30, a dewisiwch sbectol haul syml ond lliwgar o Asos.com am £12. Mae crys heb lewys hefyd yn ddilledyn aiff gyda phopeth yr haf yma, a’r lle rhataf i brynu rhai gwyn, piws, neu las-wyrdd yw Tesco am £9 a £14. I’r rhai ohonoch sy’n hoffi crysau-T hwyl a lliwgar, prynwch rai gyda sloganau, printiau a lluniau lliwgar o truffleshuffle.co.uk. Gwisgwch nhw gyda sgert hir blethedig, werdd o New Look am £19.99 neu un binc hyfryd o Monki.com am £38. Mae Monki yn frand o Sweden sydd yn boblogaidd iawn ym Mhrydain rwan a maent yn gwerthu dillad ffantastig am brisiau rhesymol! Mae printiau yn boblogaidd iawn y mis yma hefyd ac i gopïo trendiau Dolce and Gabbana ar y catwalk prynwch dop a sgert cyfateb o Topshop am £60, neu sgert gyda phrint pupur coch arni o Axparis.co.uk am £24. Ond ar adegau pan mae’r tywydd yn ddwl a neb am fentro gwisgo siorts neu sgert, mae pâr o jins yn hanfodol ac mae lliwiau golau fel pinc, gwyrdd a phiws yn smart iawn gyda blaser streipiog o H&M. I orffen, mae pob merch angen sandalau ar gyfer y traeth neu tra’n siopio, a chewch ddewis o lawer o rai hafaidd ar Boohoo.com. Oren yw lliw’r mis felly cofiwch baentio’ch gwinedd gyda phaent o Superdrug am £2.99 i’w arddangos yn y sandalau! Yn olaf, mae gemwaith yn gwneud i wisg edrych yn orffenedig, felly cliciwch ar punkyallsorts.co.uk, myflastrash.com, chelseadoll.co.uk a vintagecloset.co.uk am ddarnau prydferth a gwahanol.
A dyna ni: syniadau ffasiynol iawn am Orffennaf llawn steil, ac os yr hoffech fwy o ysbrydoliaeth am beth i wisgo, beth am fynd ar blogiau ffasiwn fel dau o fy ffefrynau: befrassy.com a whatoliviadid.com.


 




 





 



No comments:

Post a Comment