10 March 2014

Caru neu Chasau


Newydd fod ar catwalk y dylunydd Christopher Kane y mae'r wisg yma: siwmper a sgert bensil wedi eu hysbrydoli gan waith bioleg yn yr ysgol a gwaith yr artist Americanaidd, Georgia O'Keeffe.

 
 
Diagram blodyn

 



















Darlun blodyn gan Georgia O'Keeffe

























Cewch hyd i'r siwmper wen o www.colette.fr (gwefan gwerth mynd arni oherwydd y gerddoriaeth    cŵl Saesneg neu Ffrangeg sy'n cael ei chwarae arni) am £908.41, a'r siwmper binc o www.mytheresa.com am £795.

Ydych chi'n hoff o'r patrwm gwahanol yma? Yn credu y buasa'n eich gwneud yn unigryw a chŵl, neu ydych yn credu, hyd yn oed os buasech chi'n filiwnydd, bod y wisg yma'n hollol od a hyll?

Rydw i'n credu ei fod yn fath o wisg y buasa'n gwneud i eraill feddwl "ma' hi 'mond yn gwisgo hwnna achos bod o mewn ffasiwn, dim achos bod hi'n licio fo", ond i fi, buaswn i'n ei wisgo oherwydd mi rydw i'n ei licio go iawn! Buasa'r siwmper yn mynd yn lyfli efo jins, bwts a siaced ddel! Felly be' 'di'r ots be' ma' pobl yn feddwl?! Ond eto, does gen i ddim naw cant o bunnoedd i wario ar ddilledyn...






 


 
 


 


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 



No comments:

Post a Comment