10 March 2014

Caru neu Chasau


Newydd fod ar catwalk y dylunydd Christopher Kane y mae'r wisg yma: siwmper a sgert bensil wedi eu hysbrydoli gan waith bioleg yn yr ysgol a gwaith yr artist Americanaidd, Georgia O'Keeffe.

 
 
Diagram blodyn

 



















Darlun blodyn gan Georgia O'Keeffe

























Cewch hyd i'r siwmper wen o www.colette.fr (gwefan gwerth mynd arni oherwydd y gerddoriaeth    cŵl Saesneg neu Ffrangeg sy'n cael ei chwarae arni) am £908.41, a'r siwmper binc o www.mytheresa.com am £795.

Ydych chi'n hoff o'r patrwm gwahanol yma? Yn credu y buasa'n eich gwneud yn unigryw a chŵl, neu ydych yn credu, hyd yn oed os buasech chi'n filiwnydd, bod y wisg yma'n hollol od a hyll?

Rydw i'n credu ei fod yn fath o wisg y buasa'n gwneud i eraill feddwl "ma' hi 'mond yn gwisgo hwnna achos bod o mewn ffasiwn, dim achos bod hi'n licio fo", ond i fi, buaswn i'n ei wisgo oherwydd mi rydw i'n ei licio go iawn! Buasa'r siwmper yn mynd yn lyfli efo jins, bwts a siaced ddel! Felly be' 'di'r ots be' ma' pobl yn feddwl?! Ond eto, does gen i ddim naw cant o bunnoedd i wario ar ddilledyn...






 


 
 


 


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 



12 February 2014

Motel Rocks


Dwi newydd ffeindio gwefan ofnadwy o dda am ddillad o bob math o'r enw Motelrocks.com. Mae yna ddillad ar gyfer pob achlysur ar y wefan a hyd yn oed dillad vintage a dillad gan gwmniau eraill fel Doc Martens a American Apparel.

I have just found a really good website selling all kinds of clothes called Motelrocks.com. There are clothes for every occasion on the site and it even sells vintage pieces and clothes from other brands, like Doc Martens and American Apparel.



Dyma gasgliad o fy hoff ddillad oddi ar y wefan:

Here is a collection of my favourite clothes off the website:




Playsuit, £45
 
 

Quilted Bomber Jacket, £55
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 



Skirt, £28
 











T-shirt Blouse, £30

 
Short-sleeved fluffy jumper, £35
 
 
 
 











 

9 February 2014

Street Style


It's that time of year again; New York Fashion Week starts today then it's off to London, Milan and Paris Fashion Weeks. Unfortunately, I'm not lucky enough to be able to go to the Fashion Weeks, which I'd love to do to see the new collections on the catwalks and get style inspiration from fashionistas on the street. But I can still do that by the power of the internet, especially as The Sunday Times Style has launched a Front Row app where you can find out everything about the Fashion Weeks. Download it at www.frontrow.thesundaytimes.co.uk.

The internet has also enabled me to google fashionistas' street style, and I particularly want to copy stylist, photographer and writer, Margaret Zhang's outfit here:








































Here are items you can buy to look like her:




Light blue beanie, £5, River Island:






















Check coat, £64, Topshop:

























Leather trousers, £34.99, New Look:




 
 
 
 
 
 
Leopard print skate shoes, £250, Matchesfashion.com:
 
 
 










 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Tartan scarf, £16, Bank:

























Follow Margaret Zhang on Tumblr: shinebythree.tumblr.com
And on Instagram: @margaret_zhang

 
 
 
 
 
 

5 February 2014

Yr Instagram Gora' 'Rioed



Fedra i ddim coelio fy mod i ddim wedi sgwennu post ar y blog 'ma ers dechrau mis Ionawr! Dwi mor sori! Dwi 'di bod yn brysur iawn yn gweithio ac yn paratoi ar gyfer arholiadau felly dydw i ddim wedi cael llawer o amser, ond ma'n rhaid i fi gyfaddef pan ydw i'n cael amser rhydd rydw i'n treulio llawer ohono ar Instagram. Mae'r rhwydwaith lle rydych yn postio lluniau o bethau rydych yn ei wneud neu pethau rydych chi'n ei hoffi yn cychwyn cymryd drosodd fy mywyd oherwydd rydw i wrth fy modd yn edrych arno pob dydd....am ysbrydoliaeth, am syniadau o ddillad newydd i'w prynu, am bethau i wneud, i weld beth mae fy ffrindiau yn ei wneud, ac i fod yn gefnigennus o bobl sy'n mynd am sesiwn spa, neu ar wyliau i rhywle egsotig, neu sy'n prynu handbag Chanel....

Ond mae pawb yn cychwyn cael Instagram rwan gan mai dyna yw'r dyfodol. Mae'n swnio'n addictive ac yn ddi-bwynt ond mae'n werth ei gael oherwydd mae o wir yn rhoi ysbrydoliaeth i chi a fedrwch chi 'ddilyn' cwmnioedd pwysig i gael blas o'r byd busnes neu pobl enwog, fel cantorion i ddarganfod pryd mae eu gig nesaf.

Rydw i wedi rhoi rhestr at ei gilydd o'r pethau y mae pobl sy'n cael miloedd o 'likes' a 'dilynwyr' yn postio ar eu Instagram, felly os newch chi ei ddilyn, gallwch chi gael yr Instagram gorau erioed:



1. Chwiliwch am hen chwaraewr record eich rhieni a prynwch records bandiau cŵl o Amazon, fel The Smiths, Swim Deep a Nirvana. Tyunnwch lun o'r record yn chwarae ar y chwaraewr.







2. Prynwch y sgidiau sy'n bob man ar Instagram: fel arfer yn cael eu galw'n Vagabonds, maent yn fwts neu'n sandals, du neu gwyn, eithaf chunky gyda sawdl sydd ddim rhy uchel na rhy isel. Os ydych yn gallu fforddio'r rhai ar wefan Vagabond.com neu Solestruck.com, tynnwch lun ohonynt yn eu bocs, ond os ddim, mae New Look yn gwneud fersiynau rhatach.





Vagabond, £69.99
















Vagabond, £64.99





















                                    New Look, £24.99





New Look, £29.99






















3. Prynwch lawer o ddillad newydd, ffasiynol ond yn lle tynnu llun ohonynt yn eich wardrob, prynwch rhesel ddillad arian a hongian y dillad gyda hangers gwyn. Ychwanegwch ychydig o sgarffiau tartan a handbags i hongian hefyd.
























4. Gwnewch American Apparel fel eich hoff siop a prynwch popeth oddi yno. Pan yn tynnu lluniau o'r dillad a'r is-ddillad, gwnewch yn siwr eich bod yn gweld y label y tu mewn. Pwyntiau bonws os mai XS yw eich maint.



















5. Ewch i wlad dramor a tynnu llawer o luniau mewn dinas, fel Paris, neu ar draeth fel yn Barbados, i wneud eich 'dilynwyr' yn gefnigennus. Ar ôl cael tan, tynnwch lun o'ch coesau brown ar y tywod.





















6. Gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i barti a tynnwch lun o'ch gwyneb neu'ch corff i gyd i ddangos eich gwisg cyn mynd. Cofiwch ysgrifennu 'mynd allan' neu 'selfie' fel y caption.





















7. Ewch allan am fwyd i fwyty neis a tynnwch lun o'ch bwyd neu'ch pwdin. Neu coginiwch rhywbeth unigryw adref, fel sushi neu cheesecake lemon.






















8. Prynwch rhyw fath o blanhigyn, y dewis gorau buasa cactus bach mewn pot gwyn. Rhowch o ar silff ffenest eich llofft a tynnu ei lun o ongl greadigol.























Wrth gwrs mae yna lawer o bewthau poblogaidd eraill yn cael eu postio ar Instagram, fel llun o hoff ffilm rhywun, llwyfan mewn festival, dyfyniadau gan bobl enwog, myg o goffi yn Starbucks........fydd rhaid i chi wneud Instagram eich hunain rwan i ddarganfod mwy!
















4 January 2014

Blwyddyn Newydd Dda

 
Helo! Gobeithio gathoch chi gyd ddolig da a blwyddyn newydd dda I chi!
 
Hello! I hope you all had a great christmas and a happy new year to you!
 
Dydw i ddim fel arfer yn gneud adduniadau flwyddyn newydd ond ddoe welais i'r rhestr yma ar Pinterest (gwefan lle gallech wneud mood boards eich hunain o betha dachi'n licio), a dwi meddwl dwi am drio gneud bob dim arno fo!
 
I don't normally do new year resolutions but yesterday I saw this list on Pinterest (a website where you can make your own mood boards of things you like), and I think I'm going to try and do everything that's on it!
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
I ychwanegu at y rhestr; rydw i hefyd y flwyddyn yma am wylio mwy o ffilms, darllen mwy o lyfrau, a gwrando ar fwy o gantorion newydd a gwahanol dydw i erioed wedi gwrando arnynt o'r blaen. Ar ol gwylio Love Actually y dolig 'ma, dwi rwan yn hoffi gwrando ar Joni Mitchell a doeddwn i erioed wedi gwrando arni o'r blaen! Dyma rhai o fy hoff ganeuon ganddi:
 
To add to the list, this year I am also going to watch more films, read more books, and listen to more new, different singers that I've never listened to before. After watching Love Actually this christmas, I now like listening to Joni Mitchell and I had never listened o her before! These are some of my favourite songs by her: