17 November 2013

Trip i Tesco


Dydd Gwener diwethaf es i Tesco am dro, felly roedd rhaid i mi sbio i weld pa ddillad oedd ar werth yn y siop, jest rhag ofn i mi weld rhyw eitem rhad. Y tric efo Tesco ydi i chwilio yn ofalus ym mhob man achos ma' 'na lawer o ddillad yna ond dydi pob dim ddim yn rhywbeth y buasa PAWB yn ei hoffi. Ond, mae'n rhaid i mi gyfadda, roeddwn i'n hoff iawn o'r dillad welais yna dydd Gwener, yn enwedig y siwmperi gwlanog a dau eitem ofnadwy o ddel a oedd ar sel.


Dydi hi ddim digon oer i mi wisgo fy nghot fawr Eskimo-ish eto felly mae siacedi mawr, bachgennaidd yn berffaith ar gyfer taflu ymlaen dros siwmper neu gardigan, a rydw i'n hoff o'r siaced yma oherwydd y patrwm tartan ffasiynol a'r llewys lledr sy'n gwneud y dilledyn yn unigryw. A dim ond £15 ydi o; bargen!



Tesco, £15
(anwybyddwch y gardigan a'r siwmper wlanog)
 
 
 
 
 
 
 
 












Ond am rhywbeth niwtral sy'n mynd gyda phopeth ond sydd ychydig drytach, am £34.99, mae'r siaced lwyd yma o H&M yn berffaith.
 

 
 
 
 
 
 
 















Mi ddaru'r got shearling a lledr brown yma ddal fy llygaid oherwydd y gwlan melyn cynnes y tu mewn i'r got, ac oherwydd fod cotiau shearling wedi ymddangos ar llawer o gatwalks yn ddiweddar, yn cynnwys Topshop Unique a'r dylunydd Belstaff. Ac am £25 mae'n ofnadwy o rhesymol am got mor ffasiynol sy'n gallu cymryd lle eich siaced lledr ar ddiwrnodau oer.
 
  

Tesco, £25
(anwybyddwch y pyjamas)



















Cot arall gyda gwlan shearling y tu mewn iddo yw'r siaced ddenim yma o Topshop am £58 mewn glas golau neu thywyll. Mae siaced denim yn boblogaidd iawn y mis yma ond hon yw fy ffefryn oherwydd ei bod digon mawr a chynnes i gael ei defnyddio yn lle cot.



 
































No comments:

Post a Comment