Ar Hydref 20fed esi i Wyl Fwyd Llangollen yn Llangollen (wrth gwrs!) lle profais amryw o fwydydd blasus gwahanol. Es i o amgylch yr holl stondinau yn trio darnau o doffi, fudge, siocledi gwahanol, cacennau sbwnj a hyd yn oed cwrw Mws Piws, ond yn anffodus do'n i ddim yn hoff iawn o hwnnw! Well gen i seidar! Ond allan o'r holl stondinau ddaru ddau sefyll allan i mi: stondin bisgedi shortbread wedi eu gwneud yn Aberffraw, Ynys Mon a stondin cacennau bach o'r enw'r Little Round Cakes. Prynais paced o'r shortbreads blasus ac un o'r cacennau crwn, tal. Roedd yna lawer o flasau i ddewis ohonynt ond dewisiais i yr un sticky toffee: sbwnj blas toffi gyda cream melys a saws toffi yn y canol, cream ar y top a darnau bach o siocled Daim ar dop hwnnw. Lyfli jybli!
Dyma fy nghacen fendigedig:
Cewch hyd i fwy fel hyn ar www.thelittleroundcakecompany.co.uk.
Dyma'r shortbreads sydd ar y wefan www.aberffrawbiscuits.com (ches i ddim cyfle i dynnu llun fy misgedi i oherwydd roedden nhw rhy flasus, roedd rhaid i mi eu bwyta!):
No comments:
Post a Comment