Wicend diwethaf esi i aros i Warrington, jest tu allan i Lerpwl, ac oherwydd fod y siop mor agos i fy Travel Lodge i, roedd rhaid i mi fynd i Ikea! Mae'r lle yn nefoedd i mi; dwi wrth fy modd yn cerdded o gwmpas yn sbio neu'n mynd i mewn i'r holl stafelloedd prydferth mae'r gweithwyr yn y dillad melyn a glas wedi bod yn brysur yn eu creu. Y fflatiau bach yw fy ffefryn i; pob 'fflat' wedi ei wneud i greu'r lle lleiaf posibl ond dal digon o le i gael cegin, stafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely reit drws nesa i'w gilydd neu mewn dull open-planned. Dwi wir eisiau byw mewn un o'r fflatiau bach yno; jest fi ar ben fy hun! Buasa'n hyfryd! Felly, wrth i mi fynd o gwmpas yn meddwl pa bethau swn i'n hoffi yn fy fflat, dyma fi'n tynnu lluniau o'r pethau oedd yn dal fy llygaid. A dyma nhw:
Last weekend I went to stay to Warrington, just outside Liverpool, and because the shop was so close to my Travel Lodge, I had to go to Ikea! The place is heaven to me; I love walking around, peeping or going into all the pretty rooms which the workers in the blue and yellow clothes have been busy creating. The mini appartements ar my favourite; every 'appartement' has been built to create as little space as possible but there is still enough room for a kitchen, a living room, a bathroom and a bedroom right next to each other or in an open-planned format. I truly want to live in one of those little appartements; just by myself! It would be wonderful! So, as I went round wondering which things I would like in my fflat, I took photos of the things that caught my eye. And here they are:
![]() |
Cloc handi i roi ar wal y gegin A handy clock to put on the kitchen wall £12 |
![]() |
Tegan cwningen ciwt i roi ar fy ngwely A cute rabbit toy to put on my bed £5 |
![]() |
Drych arbennig sy'n dangos POPETH yn glir A special mirror that shows EVERYTHING clearly £3.50 |
![]() |
Cadair sy'n troi i roi wrth fy nesg A swivel chair to go behind my desk £13 |
![]() |
Clustog ffasiynol Fashionable cushion £13 |
![]() |
Bocsys blodeuog neu gwellt i gadw stwff Floral or straw boxes to keep stuff £3.50 |
![]() |
Gwydrau ciwt Cute glasses £0.50 |
![]() |
Dillad gwely tebyg i Cath Kidston Cath Kidston-like bed covers £20 |
![]() |
Canfas Audrey Hepburn i roi ar y wal Audrey Hepburn canvas to put on the wall £25 |
![]() |
Blanced binc ofnadwy o flewog Really fluffy pink blanket £20 |
A dyna chi! Rwan gobeithio eich bod chi yr un mor awyddus i fynd i Ikea a ydw i i fynd yn ol yno!
And there you are! Now I hope you are as keen to go to Ikea as I am to go back there!